Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2019

Amser: 09.00 - 10.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5288


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Leanne Wood AC

Tystion:

Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gareth Griffiths, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Ross Davies (Dirprwy Glerc)

Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc)

Sam Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i:

·         ofyn am ei barn yn benodol mewn perthynas â rhinweddau ac ymarferoldeb galwad y ddeiseb am wahardd neu foratoriwm ar y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus yng Nghymru;

·         gofyn iddi ystyried cyflwyno nodyn cyngor technegol ynghylch y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus; a

·         gofyn iddi pa fesurau rheoli ym maes cynllunio y gellid eu gweithredu er mwyn darparu goruchwyliaeth agosach ar gread pensaernïaeth elyniaethus yn ôl-weithredol.

 

 

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg i ofyn pa asesiad neu waith ymchwil sydd wedi ei wneud mewn perthynas â digonolrwydd yr opsiynau sydd ar gael ar fwydlenni ysbytai ac ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd i bobl sy'n dilyn deiet fegan.

</AI4>

<AI5>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI5>

<AI6>

3.1   P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y cadarnhad a gafwyd bod polisi Llywodraeth Cymru wedi ei ddiwygio gan olygu y bydd Gweinidogion yn cael eu hysbysu ynghylch, ac yn ystyried ailystyried, bob cais cynllunio yn y dyfodol ar gyfer datblygiadau olew a nwy anghonfensiynol, lle nad yw awdurdodau cynllunio lleol wedi penderfynu eu gwrthod.

</AI6>

<AI7>

3.2   P-05-788 Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         aros tan cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch statws Bagloriaeth Cymru a'i anfon at y deisebydd iddo wneud sylwadau; ac

·         ysgrifennu eto at CBAC i ofyn am ymateb ar y mater hwn ac i fynegi siom na chafwyd ymateb i'r ohebiaeth flaenorol. 

 

</AI7>

<AI8>

3.3   P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i wahodd y Gweinidog Addysg i ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth ynghylch y mater.

 

</AI8>

<AI9>

3.4   P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y deisebwyr ac eraill i roi gwybod iddynt mai'r cam gweithredu priodol yw iddynt godi eu pryderon yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi ystyried a oes cyfiawnhad iddi ymyrryd yn yr achos hwn, fel yr amlinellir yn ei llythyr; a 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddi am ymateb i'r cynnig y dylid cael ffordd uniongyrchol i lywodraethwyr ysgolion apelio penderfyniadau a wneir o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion, a gofyn iddi ddarparu manylion ynghylch unrhyw ystyriaeth a roddwyd i'r broses apeliadau yn ystod yr adolygiad o'r Cod.

</AI9>

<AI10>

3.5   P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunwyd  ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygu gwasanaethau therapi seicolegol, gan gynnwys y cyllid a roddwyd i fyrddau iechyd, ers ei lythyr blaenorol ym mis Mehefin 2018.

</AI10>

<AI11>

3.6   P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros tan y cyhoeddiad a ddisgwylir ynghylch cyllid i gefnogi'r Rhaglen Gwella Bywydau a chanlyniad yr ymgynghoriad a gynhelir gan yr Adran Iechyd yn Lloegr, cyn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb.

</AI11>

<AI12>

3.7   P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ymateb i'r wybodaeth a'r awgrymiadau a gynigiwyd gan Gyngor Sir Benfro, i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch asesiadau pellach a wnaed mewn perthynas â dyluniad y ffordd a diogelwch y cyffordd, a gofyn am gopi o'r adolygiad 36 mis RSA.

</AI12>

<AI13>

3.8   P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb a gofyn am unrhyw sylwadau sydd ganddi ynghylch priodoldeb a diogelwch plant sy'n defnyddio bysiau cyhoeddus i deithio i ac o'r ysgol.

</AI13>

<AI14>

3.9   P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ac, yn sgil gwybodaeth a gafwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos mai ychydig iawn yn fwy y gellid ei gyflawni ar yr adeg yma.

</AI14>

<AI15>

3.10 P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau i ofyn:

 

 

</AI15>

<AI16>

3.11 P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn tynnu sylw at y wybodaeth a dderbyniwyd gan ystod o randdeiliaid, a gofyn am ymatebion i'r pryderon a godwyd ynghylch defnyddio a rheoleiddio baglau Larsen yn ogystal â gwybodaeth bellach am unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd neu eu hystyried yn y maes hon.

</AI16>

<AI17>

4       Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gareth Griffiths.

</AI17>

<AI18>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

</AI18>

<AI19>

6       Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn mewn chwe mis am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y broses bontio a chanlyniadau'r adolygiadau a gynhaliwyd gan weithwyr cymdeithasol annibynnol.

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>